English/Saesneg

Panel Ymgynghori Dinasyddion Ar-lein Llais y Bobl Wrecsam.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) yn defnyddio arolygon cyson i ddeall barn leol ar y Fwrdeistref Sirol a gwasanaethau cyngor. Mae Opinion Research Services yn gwmni ymchwil annibynnol sy'n recriwtio a rheoli Panel Dinasyddion Ar-lein CBSW ar eu rhan.

Mae CBSW wedi defnyddio Panel Llais y Bobl yn llwyddiannus yn y gorffennol i ddarganfod barn trigolion lleol ar ystod eang o faterion. Nawr rydym am barhau gyda'r ymgynghoriad hwn tra'n ystyried pwysau ariannol. Mae ein panel ar-lein newydd yn caniatáu hyn - yn darparu gwerth da am arian, a hefyd yn cyfyngu ar effaith amgylcheddol arolygon drwy'r post. Os ymunwch â Llais y Bobl, fe'ch gwahoddir i gwblhau holiaduron byr ar-lein ddwy neu dair gwaith y flwyddyn ac mae'n bosib y cewch gyfle i gymryd rhan mewn grwpiau trafod weithiau.

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu drosodd, sy'n byw yn Wrecsam ac sy'n rhoi cyfeiriad e-bost dilys fod yn aelod panel ar-lein. Rheolir ORS gan ddeddfwriaeth Diogelwch Data ac mae'n addo cadw'ch manylion yn gyfrinachol; ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi i drydydd parti heb eich caniatâd a defnyddir yr wybodaeth a ddarparwch ar gyfer ymchwil yn unig.